Refill not Landfill
Menu

Y Newyddion Diweddaraf

Oriau a Dull Siopa
Gallwch archebu ar-lein yn https://openfoodnetwork.org.uk/y-pantri-glas/shop
Dewiswch o ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn a Chasgliad neu Gyflenwi (lleol yn unig)

Casglu Archeb o 10am (Gwener a Sadwrn)

Siopa Cerdded-draw 10am – 4pm ymlaen Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn a 10am to 2pm ymlaen Dydd Mercher  
(ar yr adeg hon, gallwch ddod â'ch bocsys eich hun ond byddwn ni’n eu llenwi)

Dau gwsmer yn y siop ar y tro

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni trwy e-bost i ypantriglas@gmail.com. Ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 24 awr.

Byddwn yn parhau i geisio ein gorau i weithio gyda chi i ddod o hyd i'r ateb mwyaf diogel i gael bwyd da i chi.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth barhaus.

Candace, Cathy and Fay,

Cynhyrchion - Products

Oriau Agor

Ein horiau agor:

10:00 i 16:00 Dydd Mawrth

10:00 i 14:00 Dydd Mercher

10:00 i 16:00 Dydd Iau

10:00 i 16:00 Dydd Gwener

10:00 i 16:00 Dydd Sadwrn

Archebwch ar-lein yn https://openfoodnetwork.org.uk/y-pantri-glas/shop

Dewiswch o Ddydd Gwener neu Sad a Chasgliad neu Gyflenwi (lleol yn unig)

Lleoliad a Rhif Chyswllt

Rydym wedi ein lleoli yn 19 Carmarthen Street, Llandeilo SA19 6AN

Rhif Ffôn: 01558 824672

E-bost: ypantriglas@gmail.com

Yn rhyfedd iawn, gall glas olygu glas neu wyrdd – er enghraifft ‘maes glas’ a ‘môr glas’. Rydym wrth ein bodd bod hyn yn cwmpasu ein dymuniad i helpu’r Ddaear, ar y tir ac yn y môr.

Tair mam ydym ni, sy’n byw yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Rydym am i’n siop, Y Pantri Glas, fod yn siop y bydd pobl yn ymweld â hi yn Llandeilo, siop sy’n cyflenwi bwydydd, eitemau gofal personol ac eitemau gofal cartref cynaliadwy, lle gall y cwsmeriaid lenwi eu cynwysyddion eu hunain a lleihau eu defnydd o ddeunydd pecynnu.

Bydd y siop yn gwerthu bwydydd sych rhydd (ffrwythau sych, cnau, hadau, ffacbys, grawnfwydydd), perlysiau a sbeisys, a the, yn ogystal ag eitemau a gynhyrchir mewn modd moesegol ac sydd wedi’i gorchuddio â phlastig nad yw’n blastig untro, e.e. sebon, diaroglyddion ac eitemau gofal personol eraill, eitemau ar gyfer ail lenwi, e.e. sebon golchi llestri a sebon llaw (rydym yn chwilio am gynhyrchwyr lleol).

Ein gweledigaeth yw cynnig bwydydd a chynhyrchion ffordd o fyw moesegol o’r ansawdd gorau, er mwyn cefnogi ein planed, ein hecosystemau, ein cymunedau a’n bywydau.

Ein nod yw ysbrydoli a chynhyrfu pobl ynghylch bwyd iachus gan hyrwyddo iechyd da i bawb. Trwy rymuso a galluogi pobl i wneud y dewisiadau cywir, gobeithiwn gyflwyno ymdeimlad o ddarganfod ac antur i’r weithred o siopa am fwyd ac eitemau i’r cartref, ymdeimlad sy’n cynnwys y gymdeithas gyfan.

Byddwn yn prynu’n lleol lle bo hynny’n bosibl, gan ganolbwyntio cymaint ar ansawdd ag ar fforddiadwyedd. Ein nod yw sicrhau ei bod yn rhwydd lleihau’r defnydd o blastig untro wrth siopa am nwyddau pob dydd ar gyfer y cartref a’r pantri.