Candace Browne (Cyd-sefydlydd a Chyfarwyddwr)
Mae gan Candace gefndir mewn bioleg forol ac amgylcheddol, ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes rheoli adnoddau mewn modd cynaliadwy, ffermio cynaliadwy a systemau bwyd lleol. Ar hyn o bryd, mae’n astudio ar gyfer gradd feistr mewn Maetheg Ddynol, ac mae’n credu’n gryf mewn deietau cynaliadwy, bwydydd fel moddion a chynaeafu “chwyn” o’r ardd – iym! Mae Candace yn ddatrysydd problemau brwd, ac mae bob amser yn chwilio am ffyrdd y gall ei theulu leihau gwastraff gartref, gwastraff sy’n cael ei gasglu ar hyn o bryd hyd nes iddi gael cyfle i'w droi’n rhywbeth defnyddiol! Mae’n gyffrous iawn ynghylch y ffaith y bydd yn mynd â llai o blastig adref wrth siopa yn Y Pantri Glas – problem arall wedi’i datrys!
Cathy Pearce (Cyd-sefydlydd a Chyfarwyddwr)
Yn dilyn gyrfa ym maes TG, dihangodd Cathy rhag crafangau Llundain i ymuno â’i theulu yng Nghymru, gyda’r dymuniad i newid ei gyrfa ac ymddiddori mwy mewn bwydydd lleol, da – ei fwyta a’i dyfu. Arweiniodd cyfnod o bacio bocsys o lysiau a phwyso bwydydd cyflawn at feddwl am sut y gellid gostwng ein dibyniaeth ar blastigion untro a deunydd pecynnu gwastraff arall.