Rydym yn defnyddio cyllid torfol er mwyn helpu i godi arian i sefydlu ein siop, sy’n cynnwys:
- Prynu biniau dosbarthu trwy ddisgyrchiant, yn ogystal â biniau sgŵp
- Silffoedd cadarn ar gyfer y dosbarthwyr disgyrchiant
- Cynwysyddion ar gyfer y te, y perlysiau a’r sbeisys
- Cloriannau hunanwasanaeth integredig a system til canolog
- Rydym am fuddsoddi mewn peiriant Nutramilk er mwyn cynhyrchu menyn cnau a llaeth cnau ffres
- Rydym hefyd am fuddsoddi mewn malwr Mockmill, fel y gallwn falu blawd ffres ar alw, e.e. gwenith yr hydd neu flawd gwygbys/gram
- Bydd y stoc gychwynnol a ddewiswn yn gysylltiedig â’r swm y byddwn yn ei godi. Hoffem ddechrau gyda detholiad eang er mwyn cynnig digon o ddewis i’r cwsmeriaid.
Rydym wedi gwneud cais am gymorth gan gronfa Cychwyn Busnes Sir Gâr. Byddwn hefyd yn ceisio ailgylchu neu uwchgylchu darnau eraill o ddodrefn addas ar gyfer y siop.
Mae’r siop wedi’i sefydlu fel cwmni dielw wedi’i gyfyngu trwy warant. Er y byddwn yn gweithio fel gwirfoddolwyr i ddechrau, byddwn yn gweithredu fel busnes iawn ac yn talu cyflog byw i’r staff pan fydd y siop wedi’i sefydlu.
Ewch i https://www.crowdfunder.co.uk/y-pantri-glas---llandeilo-s-zero-waste-shop i weld beth sydd gennym i’w gynnig ac i roi rhodd.
Hyd yn oed os na fyddwch yn gallu rhoi rhodd, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech rannu ar y cyfryngau cymdeithasol neu â phobl yr ydych yn eu hadnabod – byddwch yn rhan o’n tîm gwyrdd.