Yn rhyfedd iawn, gall glas olygu glas neu wyrdd – er enghraifft ‘maes glas’ a ‘môr glas’. Rydym wrth ein bodd bod hyn yn cwmpasu ein dymuniad i helpu’r Ddaear, ar y tir ac yn y môr.
Tair mam ydym ni, sy’n byw yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Rydym am i’n siop, Y Pantri Glas, fod yn siop y bydd pobl yn ymweld â hi yn Llandeilo, siop sy’n cyflenwi bwydydd, eitemau gofal personol ac eitemau gofal cartref cynaliadwy, lle gall y cwsmeriaid lenwi eu cynwysyddion eu hunain a lleihau eu defnydd o ddeunydd pecynnu.
Bydd y siop yn gwerthu bwydydd sych rhydd (ffrwythau sych, cnau, hadau, ffacbys, grawnfwydydd), perlysiau a sbeisys, a the, yn ogystal ag eitemau a gynhyrchir mewn modd moesegol ac sydd wedi’i gorchuddio â phlastig nad yw’n blastig untro, e.e. sebon, diaroglyddion ac eitemau gofal personol eraill, eitemau ar gyfer ail lenwi, e.e. sebon golchi llestri a sebon llaw (rydym yn chwilio am gynhyrchwyr lleol).
Ein gweledigaeth yw cynnig bwydydd a chynhyrchion ffordd o fyw moesegol o’r ansawdd gorau, er mwyn cefnogi ein planed, ein hecosystemau, ein cymunedau a’n bywydau.
Ein nod yw ysbrydoli a chynhyrfu pobl ynghylch bwyd iachus gan hyrwyddo iechyd da i bawb. Trwy rymuso a galluogi pobl i wneud y dewisiadau cywir, gobeithiwn gyflwyno ymdeimlad o ddarganfod ac antur i’r weithred o siopa am fwyd ac eitemau i’r cartref, ymdeimlad sy’n cynnwys y gymdeithas gyfan.
Byddwn yn prynu’n lleol lle bo hynny’n bosibl, gan ganolbwyntio cymaint ar ansawdd ag ar fforddiadwyedd. Ein nod yw sicrhau ei bod yn rhwydd lleihau’r defnydd o blastig untro wrth siopa am nwyddau pob dydd ar gyfer y cartref a’r pantri.